15/03/11
Talent Sgilgar Cymru’n Ceisio Bri Byd-eang
Bydd rhai yn ceisio profi mai nhw yw’r gorau yn y wlad. Ond, i eraill hon fydd yr her i fod y gorau yn y byd. Ymhen dwy flynedd, bydd her sgiliau byd eang yn cael ei chynnal yn yr Almaen.
Bydd rhai o dan hyfforddiant a rhai newydd gymhwyso’n cymryd rhan mewn mwy na 30 o ddigwyddiadau rhwng nawr a diwedd mis Gorffennaf - yn rhaglen skillscompetition Cymru, sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd - ac yng nghystadlaethau WorldSkills DU.
Bydd enillwyr rhai o’r heriau anodd, sy’n cael eu cynnal mewn colegau a chanolfannau hyfforddi, yn cyrraedd WorldSkills 2013 yn Leipzig, yr Almaen. Yno, bydd mwy na 1,000 o'r gweithwyr ifanc mwyaf sgilgar o fwy na 50 o wledydd yn brwydro dros bedwar diwrnod o flaen cynulleidfa o 150,000 o bobl.

Bydd cystadleuwyr cystadlaethau skillscompetition Cymru yn gobeithio dilyn ôl traed wyth o gystadleuwyr o Gymru a enillodd fedalau aur yng nghystadlaethau WorldSkills DU yn 2010. Mae’n frwydr hefyd i ddilyn ôl traed dau unigolyn sy’n ymladd ar hyn o bryd i gynrychioli’r DU yn nigwyddiad rhyngwladol WorldSkills 2011 a fydd yn cael ei gynnal yn Llundain fis Hydref eleni.
Bydd pobl dalentog Cymru’n ceisio dangos eu dwsinau o wahanol sgiliau, o alwedigaethau traddodiadol megis arlwyo, adeiladu, trin ceir a thrin gwallt i feysydd newydd megis datblygu gwefannau, meddalwedd a dylunio gyda chymorth cyfrifiadur. Bydd yna gystadleuaeth ffyrnig hefyd mewn meysydd hynod arbenigol megis peirianneg awyrennau a llongau.
Mae trefn y cystadlaethau’n llym, ac yn profi sgiliau’r cystadleuwyr i’r eithaf o dan lygaid barcud rhai o’r arbenigwyr mwyaf profiadol yn y eu maes.
Bydd y cystadlaethau’n yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnosau a’r misoedd i ddod ac mae yna’n dal gyfle i unigolion uchelgeisiol gymryd rhan. Ewch i www.worldskillsuk.org/wales. Y dyddiad cau yw 24 Mawrth.
Meddai Lesley Griffiths, Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Sgiliau: “Os yw Cymru i lwyddo a ffynnu, mae’n rhaid i sgiliau’n gweithlu fod gystal os nad gwell na rhai ein cystadleuwyr, yn y DU ac yn rhyngwladol.
“Mae cymryd rhan yn rhaglen WorldSkills yn galluogi’n pobl ifanc i gystadlu â’u sgiliau yn erbyn cymheiriaid byd eang ac i geisio gwella’n barhaus mewn dwsinau o ddisgyblaethau a galwedigaethau. Mae llawer wedi cael llwyddiant eithriadol yn y gorffennol ac rwy’n hyderus y byddan nhw’n yn gwneud hynny eto y tro hwn. Rwy hefyd yn canmol y colegau a darparwyr hyfforddiant sy'n cynnal digwyddiadau WorldSkills. Maen nhw hefyd yn dangos i bawb yr adnoddau datblygu sgiliau rhagorol sydd gennym ni yma yng Nghymru."
For further information on this press release, please contact Working Word and ask to speak to a PR consultant.
Working Word is a full service communications and PR/public relations company based in Cardiff which represents a number of public sector and business clients. Working Word provides public relations consultancy for fast growing companies in Cardiff, Swansea, Newport, Bristol along the M4 corridor of England and across south Wales.
Our public relations and communications services are provided from our central Cardiff office in Southgate House, located adjacent to Trinity Mirror’s Media Wales news headquarters. Conveniently located near to Cardiff Bay and Cardiff city centre, our offices are available for client use when required. We are home to the largest operational PR team in Wales and are the current - and second-time - holders of the CIPR (Chartered Institute of Public Relations) ‘Outstanding PR Consultancy in Wales’ award.
Our in-house graphic designer enables us to offer graphic design, website design, advertising, branding and marketing solutions.
Our social media consultancy division has helped clients scoop awards for their ground-breaking efforts in harnessing digital media to communicate with their audiences online. We also provide search engine optimisation services to ensure our clients achieve the SEO results they need using organic search keyword strategies. The best thing is, we provide all of these services as a seamless, integrated communications package with one point of contact. We get to know you, then make sure your audiences get to know you better.
Please contact our Cardiff public relations office for more information on PR campaigns.






